Teitl y ddeiseb: Cyflwyno gwersi ar fagu plant a sgiliau bywyd sylfaenol ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd.
Mae pwysau cynyddol oherwydd y pandemig wedi arwain at gynnydd mewn achosion o gam-drin plant. Yn 2020/21, cafodd dros 24.8 mil o droseddau cam-drin plant eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr, sy’n gynnydd o 2.9 mil o droseddau o gymharu â’r flwyddyn adrodd flaenorol. Un ffordd o gefnogi cenedlaethau’r dyfodol pan fyddant yn dod yn rhieni yw drwy gwricwlwm sy’n cynnig gwersi ar gyfrifoldebau rhieni, gofalu am y cartref, rheoli arian, cymorth cyntaf sylfaenol, iechyd corfforol ac iechyd meddwl a pharatoi prydau o fwyd maethlon ar gyllidebau tyn. Mae angen i’r Llywodraeth dorri’r cylch cam-drin plant. Mae’n rhaid cyfathrebu’n well a gweithio ar draws asiantaethau ym maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau i blant, yn ogystal â gwneud ymdrech fawr i hyrwyddo ymyraethau a rhaglenni ataliol. Dylai pob gweithiwr aml-asiantaeth ddefnyddio’r un system fel bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n effeithiol. Dylai gwiriadau llesiant fod yn orfodol ar gyfer plant ifanc, gan gynnwys profion deintyddol a deietegol. |
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cwricwlwm statudol newydd — y 'Cwricwlwm i Gymru', fel y’i gelwir — i bob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed mewn lleoliadau a ariennir yn gyhoeddus.
Bwriad y Cwricwlwm i Gymru yw sicrhau bod gan bobl ifanc y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad y bydd eu hangen arnynt fel oedolion yn y byd sydd ohoni, o’i gymharu â’r cwricwlwm cenedlaethol presennol a sefydlwyd ym 1988. Mae'n dilyn adolygiad yr Athro Graham Donaldson yn 2015, Dyfodol Llwyddiannus, a ddefnyddiodd fel man cychwyn sut y dylai pobl ifanc 16 oed sy’n cwblhau eu haddysg orfodol edrych a pha nodweddion a ddylai fod ganddynt, cyn penderfynu ar yr hyn y dylai’r cwricwlwm ei ddarparu.
Bwriedir i’r cwricwlwm newydd fod yn seiliedig ar ddibenion yn hytrach nag ar gynnwys, gyda mwy o bwyslais ar sgiliau ac addysgu'r hyn sy'n bwysig. Bydd gan ysgolion hyblygrwydd i gynllunio eu cwricwlwm eu hunain, o fewn fframwaith cenedlaethol eang a ddarperir gan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 a chodau a chanllawiau cysylltiedig.
Fel y mae’r llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn ei amlygu, un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad yw 'Iechyd a Lles', sydd wedi’i dylunio i ddatblygu unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas (un o ddibenion y cwricwlwm).
Bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) yn elfen orfodol o'r Cwricwlwm i Gymru, a thrwy hynny bydd plant a phobl ifanc yn dysgu am berthnasoedd iach a pherthnasoedd nad ydynt yn iach. Caiff ACRh ei haddysgu yn unol â chod statudol.
Mae’r Cwricwlwm newydd i Gymru’n cael ei gyflwyno mewn ysgolion cynradd ym mis Medi 2022. Bydd ysgolion uwchradd hefyd yn gallu ei haddysgu ym Mlwyddyn 7 o fis Medi eleni, ond ni fydd yn statudol tan fis Medi 2023, pryd y bydd yn statudol ar gyfer Blwyddyn 7 a Blwyddyn 8. Yna caiff y cwricwlwm newydd ei gyflwyno i grŵp blwyddyn hŷn ychwanegol, flwyddyn ar ôl blwyddyn, hyd nes iddo gyrraedd Blwyddyn 11 yn 2026/27.
Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn darparu’r fframwaith lefel uchel, gyda rhagor o fanylion ynghylch sut a beth y dylai ysgolion ei gynnwys yn eu cwricwla yn cael eu nodi mewn codau statudol a chanllawiau statudol. Datblygwyd y cwricwlwm mewn manylder gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â’r proffesiwn addysgu ac mae wedi bod yn destun sawl ymarfer ymgynghori ac adborth.
Mae'r ddeiseb yn trafod pwnc cam-drin plant ac yn galw ar lywodraethau i helpu i ‘dorri'r cylch cam-drin plant'. Bwriad Llywodraeth Cymru yw y bydd y Cwricwlwm newydd i Gymru, ac Iechyd a Lles ac ACRh yn enwedig, yn helpu i amddiffyn pobl ifanc rhag niwed a chamdriniaeth ac yn eu galluogi i dyfu’n oedolion sydd ag agweddau cadarnhaol, iach a chyfrifol tuag at eraill.
Fel y mae llythyr y Gweinidog yn ei amlinellu, mae dyletswyddau a gweithdrefnau diogelu sefydledig, sy’n seiliedig ar ddeddfwriaeth sy’n cynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, wedi cael eu llunio i adnabod plant sy’n wynebu risg ac ymateb iddynt.
Mae canllawiau perthnasol yn cynnwys canllawiau diogelu ar gyfer awdurdodau lleol, canllawiau diogelu ar gyfer lleoliadau addysg, a Gweithdrefnau Diogelu Cymru a Chanllawiau Ymarfer Cymru Gyfan.
Rhwng Gorffennaf 2020 a Mawrth 2021, craffodd y Senedd ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) ac yna ei basio. Daeth yn Ddeddf ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2021.
Un o flaenoriaethau Senedd Ieuenctid flaenorol Cymru oedd galw am i sgiliau bywyd gael eu cynnwys yn y cwricwlwm newydd, a dyna oedd testun adroddiad a gyhoeddwyd ganddi yn 2019. Mae addysg a’r cwricwlwm ysgol yn flaenoriaeth i’r Senedd Ieuenctid bresennol hefyd.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |